Hafan

Sefydlwyd Cynllun Efe er mwyn cyflwyno neges Efengyl Iesu Grist i bobl ifanc yn ardal papur bro Eco’r Wyddfa.  Ein gobaith yw y bydd pobl ifanc yn dod i brofi cyflawnder y bywyd o adnabod a dilyn yr Arglwydd Iesu Grist ei hun.

Cynllun cydenwadol ydyw sy’n cael ei gefnogi a’i ariannu gan eglwysi’r cylch o wahanol enwadau Cristnogol, y prif enwadau yng Nghymru, a rhai mudiadau ac Ymddiriedolaethau eraill.  Ers Hydref 2008, mae Efe yn cynnal Gweithiwr Ieuenctid llawn amser, Andrew Settatree.

Dyma fap o ddalgylch Cynllun Efe. Rhowch glec ar y pinau glas i ddarllen am y gweithgaredd yn y pentref hwnnw.


View Larger Map
Follow

Get every new post delivered to your Inbox.